AMDANOM

Cartref > Amdanom

Mae Ar Graff Cymru Cyf yn gwerthu a llogi offer swyddfa a TG ac yn cynnig gwasanaeth a chymorth ar hyd a lled Gogledd Cymru. Mae brandiau blaenllaw byd-eang wedi ein penodi yn ddelwyr iddynt, ac felly gallwch fod yn hyderus eich bod yn partneru â chwmni profiadol er mwyn gofalu am eich offer swyddfa a’ch anghenion TG
Rydym yn darparu amrediad llawn o systemau digidol mono a lliw amlswyddogaethol dibynadwy, sydd yn cynnig cynhyrchiant uchel a chostau cynnal a chadw is. Maent wedi eu dylunio i fodloni anghenion cwmnïau lleol, o weithwyr proffesiynol sydd yn gweithio o adref, i fentrau bach a chanolig sydd angen hyblygrwydd a gwasanaeth lleol da ac onest.

Dibynadwy a phrofiadol

P’un a ydych yn chwilio am gynnyrch copïo, argraffu neu sganio unigol, neu gynnyrch amlswyddogaethol a rheoli dogfennau, gallwch ddibynnu ar ein hamrediad o dechnoleg argraffu uwch i gadw eich busnes ar flaen y gad.
Mae ein tîm lleol cyfeillgar, ymrwymedig a phrofiadol yn rhoi amser i ddod i adnabod eich busnes, gan sicrhau eu bod yn cynnig y gwerth gorau posibl i chi.

Cytundebau gwasanaeth

Yn Ar Graff Cymru Cyf rydym ym ymrwymedig i roi profiad gwasanaeth o ansawdd uchel i chi. Drwy gynnig gwerth y gellir ei fesur, mae ein dull unigryw o greu partneriaethau lleol yn meithrin perthynas barhaus, fel y gallwch fod yn hyderus bod eich busnes mewn dwylo diogel.

Addewid o wasanaeth

Rydym yn helpu sefydliadau o bob maint i gael y gorau o’u hatebion busnes, ac rydym yn falch o allu gweithio gyda chi er mwyn sicrhau bod eich offer yn ased yn hytrach na’n draul ar eich adnoddau. Rydym hefyd yn sicrhau ein bod yn delio yn brydlon a phroffesiynol gydag unrhyw faterion pan fônt yn codi.


Ein Tim Rheoli
Arwel Griffiths

Rheolwr Gyfarwyddwr

20 Mlynedd yn y Diwydiant
Cyn swyddi yn cynnwys rheolwr adwerthol (Kwik Save / Somerfield group) rheolwr gwerthu Konica Peter Llewelyn Konica Minolta. 11 mlynedd fel cyfarwyddwr Kon-x Wales. Rheolwr rhanbarthol Apogee Corporation, Rawson Digital.

Nicky Owen-Griffiths

Cyfarwyddwr Masnacha a Gweinyddiad

15 mlynedd o brofiad yn y maes.
Cyngor Gwynedd.


YN yR ADRAN YMA: