Ein Cwsmeriaid

Cartref > Amdanom > Ein Cwsmeriaid

Yn Ar Graff Cymru rydym yn helpu ein cwsmeriaid i reoli eu hanghenion argraffu a chopïo yn effeithlon, profi cynhyrchion sy'n gwella perfformiad a sicrhau mwy o arbedion cost. Rydym yn cynnig ystod o systemau digidol mono a lliw aml-swyddogaethol a nodweddir gan ddibynadwyedd, cynhyrchiant uchel a llai o gost cynnal a chadw.

Wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion cwmnïau lleol, o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gartref i fentrau bach a chanolig sydd angen hyblygrwydd a gwasanaeth lleol gonest da - mae ein gwasanaeth yn cefnogi sefydliadau sy'n gweithredu ar draws pob sector.

P'un a ydych chi'n fusnes, awdurdod lleol, sefydliad addysgol, bwrdd iechyd, canolfan feddygol, cyrff sector cyhoeddus neu elusen - rydym yn ymfalchïo mewn helpu sefydliadau, o bob maint, i gael y gorau o'u datrysiadau busnes.

Rydym yn gweithio'n agos gyda chi, yn dod i adnabod eich busnes i sicrhau bod eich offer yn ased yn hytrach nag yn draen ar eich adnoddau. Rydym hefyd yn sicrhau pan fydd materion yn codi, yr ymdrinnir â nhw'n brydlon ac yn broffesiynol.

BBaCh

Rydym yn cefnogi busnesau sydd yn tyfu drwy ddarparu gwasanaeth allai dyfu yn ôl yr anghenion. Rydym yn neilltuo amser i ddeall eich anghenion ac i ddarparu’r ateb argraffu mwyaf cost effeithiol ac effeithlon.

  • Dyfeisiau MFP popeth-mewn-un

  • Argraffyddion a chopiwyr o ansawdd

  • Amrywiaeth o nodweddion ar gael

  • Yn barod ar gyfer y rhwydwaith

  • Cymorth ôl-werthiant

Corfforaethol

Rydym wedi datblygu perthynas ers amser maith gyda nifer o sefydliadau o’r radd flaenaf drwy ddarparu atebion argraffu sydd yn barod ar gyfer y rhwydwaith ar gyfer defnyddwyr â mwy nag un safle a defnyddwyr trawsadrannol.

  • Dyfeisiau MFP popeth-mewn-un

  • Amrywiaeth o nodweddion ar gael

  • Wifi Mewnol

  • Yn barod ar gyfer y rhwydwaith

  • Cymorth ôl-werthiant

Y Sector Cyhoeddus

Mae ein hatebion argraffu fforddiadwy yn helpu nifer o awdurdodau lleol, cyrff y llywodraeth, canolfannau meddygol a sefydliadau addysg i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd gweithredol.

  • Dyfeisiau MFP popeth-mewn-un

  • Amrywiaeth o nodweddion ar gael

  • Wifi Mewnol

  • Yn barod ar gyfer y rhwydwaith

  • Cymorth ôl-werthiant

Busnesau Newydd

Mae sefydlu busnes newydd yn cymryd llawer o amser ac yn golygu llawer o fuddsoddi. Rydym yn eich cefnogi drwy ddarparu atebion argraffu fforddiadwy sydd yn gwella effeithlonrwydd o’r cychwyn cyntaf.

  • Ansawdd argraffu eithriadol

  • Opsiynau unlliw a lliw llawn

  • Modelau llai ar gyfer bwrdd gwaith

  • Amrywiaeth o nodweddion ar gael

  • Cymorth ôl-werthiant