Cymorth & Gwasanaethau

Cartref > Cymorth & Gwasanaethau

Mae Ar Graff Cymru yn falch o gynnig gwasanaeth cymorth a chynnal a chadw heb ei ail. Rydym yn gwneud pob ymdrech i osod yr offer priodol ar gyfer y cymhwysiad a ddymunir, ac mae hynny yn cael ei ategu gan wasanaeth cymorth ôl-ofal llawn sydd yn cynnig tawelwch meddwl llwyr i’n cwsmeriaid.

Mae ein technegwyr gwasanaethu, a hyfforddwyd gan y gwneuthurwr, yn darparu gwaith cynnal a chadw ataliol wedi ei gynllunio er mwyn sicrhau bod eich offer yn parhau i weithio ar ei orau, gan helpu i ymestyn ei oes. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau cynnal a chadw adweithiol pan fo peiriant yn methu. Mae'r gwasanaeth brys adweithiol ar-alw yma yn ymdrechu i leihau cymaint â phosibl ar yr amser segur a’r amhariad ar eich sefydliad. Mae’r holl dechnegwyr yn cario stoc helaeth o gydrannau ac arlliw wrth gefn, sydd yn eu galluogi i sicrhau cyfradd uchel iawn o atgyweiriadau y tro cyntaf.

Newyddion

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansiad yr ychwanegiad diweddaraf at ein cefnogaeth gwasanaeth ar y cyd â Develop a Konica Minolta - AIRe Link.

Pe byddech chi byth yn wynebu problem gyda dyfais Develop, byddwn bob amser yn ceisio datrys hyn cyn gynted â phosibl. Gyda hyn mewn golwg mae Develop a Konica Minolta wedi ymestyn eu gwasanaethau anghysbell gydag AIRe Link - offeryn cymorth gweledol o bell ar unwaith i ni ei ddefnyddio.

Mae AIRe Link yn galluogi ein technegwyr gwasanaeth i weld yr hyn a welwch ar eich dyfais, gan ddefnyddio'ch ffôn neu dabled, fel y gallwn gynnig cefnogaeth o bell a datrys materion yn gyflym. Ar gyfer atebion cyflymach, fel ein cwsmer, rydych chi'n derbyn y sesiwn AIRe Link pan fydd ein technegydd yn eich gwahodd; a rhoi hwb i effeithlonrwydd gweithredol eich busnes yn gyfan gwbl.

Cysylltwch â'n tîm heddiw i gael mwy o wybodaeth am AIRe Link.

Ein Systemau Rheoli Gwasanaeth


  • Rheoli Galwadau Gwasanaeth - gydag atal galwadau, tracio rhannol, cysylltiadau â rheoli credyd, a dyddiadau pan fo gwarant yn dod i ben. Gwasanaeth cofnodi galwadau Danfon Arlliw Awtomatig a Dychwelyd i Osod gyda rhybuddion pan fo arlliw yn isel.

  • Peirianwyr Maes yn Defnyddio Dyfeisiau Clyfar - sydd yn galluogi i beirianwyr weld galwadau sydd i’w gwneud, derbyn galwadau o bell a gweithredu arnynt, cofnodi amseroedd cyrraedd a chwblhau. Gellir gweld hanes gwasanaethu peiriannau a’r cofnodion mesuryddion.

  • Adroddiadau Llawn am Wasanaeth - sydd yn darparu adborth ar berfformiad ein technegwyr a pheiriannau sy’n cael eu tanddefnyddio.

  • Hysbysu am Alwadau - mae e-bostion awtomatig yn cael eu hanfon i’n cwsmeriaid pan fo galwad gwasanaeth yn cael ei chofnodi, ei rhoi ar waith neu’n cael ei chau.

  • Rhybuddio ac Esgoli Galwadau - monitro perfformiad gwasanaeth yn fanwl gyda rhybuddion e-bost pan na fydd problemau yn cael eu datrys.

  • E-bostion ar gyfer Darlleniadau Mesuryddion - gyda chanllawiau penodol i fodelau penodol i gwsmeriaid ar sut mae cael darlleniad o’u copïwr.

Os bydd yr offer yn methu


Os bydd yr offer yn methu, ffoniwch 01286 660974 os gwelwch yn dda.

Pan fyddwch yn ffonio, rhowch enw eich cwmni, rhif cyfresol eich peiriant (sydd ar y sticer ar flaen eich peiriant) a natur y broblem.

Byddwn yn ymdrechu i ddatrys y broblem dros y ffôn pryd bynnag fo hynny’n bosibl.

Efallai y byddwn yn gallu cynnig datrysiad o fewn ychydig funudau drwy roi cyfarwyddiadau syml.

Sut mae’n gweithio


Gellir prynu ein hoffer argraffu a chopïo perfformiad uchel yn uniongyrchol gan Ar Graff Cymru Cyf. Rydym hefyd yn cynnig cytundebau llogi a lesio, allai gynnig ateb mwy cyfleus i rai sefydliadau. I nifer, mae lesio offer argraffu yn ddewis mwy ffafriol, oherwydd nid yw’n golygu unrhyw wariant cyfalaf, a gellir teilwra cytundebau i gynnwys gwasanaethau cynnal a chadw a chymorth, yn ogystal â gwasanaeth danfon deunyddiau traul yn rheolaidd.

Mae lesio offer yn eich galluogi i elwa o nodweddion ansawdd uwch na fyddwch efallai eisiau buddsoddi ynddynt yn gyfan gwbl. Rydym yn cynnig strwythur prisiau cystadleuol iawn a byddwn yn ystyried cynnig darpariaeth cyllido i bob sefydliad, yn cynnwys busnesau newydd. Mae cytundebau tymor sylfaenol a sefydlog ar gael, sydd yn eich helpu i gyllidebu eich anghenion argraffu yn fanwl.

Bydd lesio neu logi eich offer argraffu a chopïo gan Ar Graff Cymru Cyf yn arwain at arbedion cost sylweddol a buddion o ran perfformiad. I drafod prynu neu lesio ein hoffer, ffoniwch 01286 660974 os gwelwch yn dda i drefnu apwyntiad.