Cartref >Offer a Dodrefn Swyddfa > Dodrefn Swyddfa Bwrpasol
Draft, Design, Build – neu ‘DDB’ yw’r gwneuthurwyr atebion gweithle sydd wedi’u gynllunio’n hardd ac yn haws. Ar ôl cael ei sefydlu’n Finchampstead, DU yn 2002, mae DDB wedi ddatblygu i fod yn arloeswyr mewn dylunio gweithfannau ac atebion storio desgiau dros yr 20 mlynedd. Rydym yn hynod o falch o fod yn yr unig gyflenwr o’r cynnyrch DDB yng Nghymru!
Mae DDB yn creu cynhyrchion ymarferol hardd, gan integreiddio’r dechnoleg diweddaraf yn ddi-dor gyda dyluniadau modiwlaidd i gynhyrchu desgiau glân a chreadigol o’r ansawdd uchaf. Mae eu cynnyrch wedi’u cynllunio ar gyfer swyddfeydd a chyfleusterau addysgol: ystafelloedd dosbarth cynradd, uwchradd ac addysg uwch amrywiol.
Mae DDB mor hyderus yn ansawdd eu cynnyrch fel bod eu gweithdai’n sicr o bara o leiaf 25 mlynedd – sy’n gwneud cynnyrch DDB yr ddewis ariannol ac amgylcheddol gorau. Gallwch ddewich o amrywiaeth o liwiau, effeithiau a deunyddiau sy’n addas i’ch lle. Perffaith ar gyfer gwrthsefyll unrhyw ddifrod yn yr ystafell ddosbarth! Mae eu holl gynnyrch yn gydnaws â PC slim DDB (casét), PC, iMac, Cyfrifiadur Mini ddi-fan neu ddyfeisiau ‘all-in-one’, fel y gallwch wneud eich lle yn addas i’ch offer. Os nad ydych ddal yn argyhoeddedig – maent hefyd yn cynnig dynwared ‘ceisio cyn prynu’ ar gyfer amrywiaeth o’u cynnyrch.
Un o'u prif cynhyrchion yw'r 'I-desk'. Mae'r 'I-desk' yn ddyluniad tebyg i jigsaw modiwlaidd sy'n cynyddu cynhyrchiant drwy gael gwared ar rwystrau di-angen a chynyddu'r lle i’ch coesau. Gellir graddio a theilwra'r ateb i-desk i siwtio’ch anghenion, gan ei gwneud yn hawdd i addasu i unrhyw le neu ychwanegu neu dynnu defnyddwyr ac offer TG – perffaith ar gyfer bywyd prysur yn yr ystafell ddosbarth!
Mae'r 'i-rise education' yn gynllun gweithle aml-weithrediad sydd wedi datblygu o'r dyluniad 'i-rise' gwreiddiol o ddros 15 mlynedd yn ôl. Mae'n darparu mynediad diogel i sgrîniau cyfrifiadurol cudd a bysellfyrddau wrth gyffwrdd botwm yn unig! Mae ei ddyluniad taclus yn caniatáu trawsnewidiad di-dor mewn llif gwaith ac yn gweithio fel ateb gweithio unigol a chydweithredol.
Mae DDB hyd yn oed wedi cynlluno gweithle ‘i-lab’ effeithlon – gan integreiddio gwyddoniaeth a thechnoleg i fewn i un uned. Mae’r i-lab yn cynnwys cyfleusterau arbenigel fel sinc ac uned nwy y gellir ei gloi, a gasgedi i ddal gollyngiadau, ac arwynebau gwaith sy’n gwrthsefyll cemegon a facteria – sydd i gyd yn cyfrannu at gynnal amgylchedd Gwaith diogel i’ch myfyrwyr.
Yn Ar Graff, byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i'r ateb DDB perffaith ar gyfer eich ysgol! Does dim ots beth rydych chi'n chwilio amdano, bydd gan DDB yr ateb arloesol i'ch problemau. Fel cyflenwr Cymraeg ar gyfer un o'r brandiau mwyaf cyffrous yn y diwydiant, rydym yn cyfateb ag ymrwymiad DDB i ddarparu'r profiad cwsmeriaid gorau oll ac atebion ymarferol i unrhyw weithfan!