Gall prynu neu lesion offer argraffu modern ac amlswyddogaethol fod yn gymhleth iawn gyda llawer o jargon a thermau technegol i’w hystyried a’u deall. Yn Argraff Cymru Cyf. rydym yn sicrhau bod y broses mor ddidrafferth â phosibl. I ddechrau byddwn yn eich holi am eich sefyllfa bresennol ac yna am eich anghenion i’r dyfodol. Pan fyddwn wedi deall eich anghenion, byddwn yn rhoi dyfynbris ysgrifenedig i chi ar gyfer y datrysiad y byddwn yn ei argymell i chi.
Mae’r Ffurflen Dyfynbris isod yn ffordd dda o cychwyn y broses o brynu. Ond rydym yn credu ei bod yn well cyfarfod wyneb yn wyneb er mwyn dechrau perthynas fusnes allai bara am bum mlynedd neu fwy. Cysylltwch â’n tîm gwerthu i drefnu apwyntiad ar 01286 660974 neu lenwi’r Ffurflen Dyfynbris isod, a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.